DIGWYDDIADAU YW EIN BUSNES
Mae Comisiwn Digwyddiadau wedi cael ei sefydlu fel prosiect gan eu bartneriaid, sef Cynghorau Môn, Conwy, Dinbych a Gwynedd ynghyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru. Cefnogir yn ogystal gan raglen cyllido Ewropeaidd Amcan Un, i gynorthwyo gyda digwyddiadau yn rhanbarth.
Cefnogaeth a Chyngor
Bod yn strategol ei natur, ni i fydd y Comisiwn yn gweithredu pecyn cefnogaeth ariannol trwy broses ceisiadau, ond yn hytrach bydd yn cydweithio gyda’r partneriaid i fuddsoddi eu hadnoddau prin mewn ffyrdd strategol o ddatblygu a chefnogi digwyddiadau.
Bydd y Comisiwn i ddechrau yn brosiect 3 blynedd, yn ystod yr amser yma bydd yn cydweithio gyda phump o ddigwyddiadau mwyaf yr ardal sydd o bwys Cenedlaethol / Rhyngwladol:- Gwyl Bryn Terfel Y Faenol, Sioe Môn, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Gwyl Criced Bae Colwyn, Pencampwriaeth Agored Hyn a Thaith Sialens Cwpan Ryder Cymru.
Bydd y Comisiwn yn gweithio i ddenu digwyddiadau newydd i’r ardal, yn ogystal â gweithio gyda digwyddiadau o bwys strategol i’r partneriaid.
Strategaeth
Fel rhan o gynllun gweithgaredd y comisiwn bydd yn:-
- Datblygu peirianwaith cefnogaeth i drefnwyr digwyddiadau ym maes iechyd a diogelwch.
- Darparu cefnogaeth datblygu a chyngor busnes i drefnwyr digwyddiadau.
- Darparu cefnogaeth a chyngor marchnata i drefnwyr digwyddiadau.
- Creu a datblygu cynhadledd digwyddiadau rhanbarthol mewn partneriaeth a NOEA, (Cymdeithas Genedlaethol Digwyddiadau Awyr Agored) i’w gynnal yn flynyddol yn yr Hydref.
- Datblygu a chyflwyno Strategaeth Digwyddiadau Gogledd Gorllewin Cymru.
Os carech unrhyw wybodaeth bellach am y Comisiwn, neu os carech gymorth gan y Comisiwn, yna cysylltwch a ni.
|